Ydy “y Cyngor” yn golygu’r Cyngor Tref neu’r Cyngor Sir?

Cyngor Sir Ceredigion yw’r prif cyngor ar gyfer Ceredigion i gyd, gan gynnwys Aberystwyth. Er enghraifft, mae e’n rhedeg ysgolion, casglu sbwriel, darparu gofal cymdeithasol, rhedeg meysydd parcio a chyflogi wardeniaid traffig, gwneud penderfyniadau cynllunio ac ati. Fe biau’r promenâd a’r castell, yn ogystal â llawer o bethau eraill yn y dref ac yng ngweddill y sir.

Yn yr ystyr yna, nac ydy, nid yw Cyngor Tref Aberystwyth ddim yn gwneud y pethau hynny. Ond mae e’n gyngor etholedig ar raddfa llawer llai na Cheredigion.

Mae’n bwysig i beidio cymysgu’r rhain wrth siarad am “y Cyngor”. Maen nhw’n wahanol iawn. Dyna pam rydym ni am helpu pobl drwy esbonio beth yw Cyngor Tref Aberystwyth a beth mae e’n ei wneud.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *