Oes oes gennych gwestiwn nad yw’n ymddangos yma neu os dymunwch chi eglurhâd am un o’r atebion isod, anfonwch ebost atom ni.
Cwestiynau Cyffredin
Nac ydyn.
Er hynny, mae’r Maer yn derbyn £1500 y flwyddyn i gyflawni ei d/dyletswyddau maerol, ac mae unrhyw roddion i elusennau’n dod ohono. Mae cadeiryddion pum prif bwyllgor yn derbyn £500 am gyflawni’r rolau hŷn yma, er nad yw neb ohonyn nhw’n cael dau daliad os yw’n cadeirio mwy nag un pwyllgor.
Mae treuliau teithio, ond fel arfer mae’r rhain yn symau bach, ac ar gyfer ychydig iawn o deithiau, er enghraifft fel y caiff y Maer fynd ar deithiau gefeillio gyda threfi eraill i gynrychioli Aberystwyth. Mae costau petrol neu deithiau trên yn cael eu talu ar gyfer cyfarfodydd y tu allan i’r dref, ond mae’r rhain yn brin iawn, e.e. grwpiau defnyddwyr y rheilffordd. Gellir edrych ar y costau yn swyddfa’r Cyngor Tref.
Rhaid i’r Cyngor wneud taliadau o £150 y flwyddyn i gynghorwyr yn ôl y gyfraith ar gyfer costau swyddfa, ond mae rhai’n eu gwrthod: eu pwrpas yw sicrhau y gall unrhywun gynghorydd tref heb fod ar ei ch/golled.
Ar wahân i’r taliadau uchod, mae cynghorwyr tref yn gweithio i’r dref ar sail gwirfoddoli’n unig ar ôl iddyn nhw gael eu hethol gan breswylwyr y dref bob pum mlynedd.
Cyngor Tref Aberystwyth yw’r cyngor cymunedol i Aberystwyth. Mae e’n rhedeg rhai gwasanaethau yn y dref, er bod rhan fwyaf y prif wasanaethau’n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion.
Cyngor Tref Aberystwyth yw’r cyngor cymunedol i Aberystwyth, sy’n cynnwys Ward Bronglais Ward, Ward y Canol, Ward y Gogledd, Ward Penparcau a Ward Rheidol. Mae ganddo statws tref ac adnabyddir ei gadeirydd fel Maer Aberystwyth.
Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cadw siartr Cyngor y Fwrdeistref a roddwyd iddo fe gan Edward I, Brenin Lloegr yn 1277. Diddymwyd Cyngor y Fwrdeistref yn 1974, sef pan roddwyd cynghorau trefi i drefi roedd ganddyn nhw siartrau bwrdeistrefi.
Grŵp bach o gynghorwyr tref Aberystwyth. Gwelwch y tudalen Amdanom ni i gael mwy o wybodaeth am pwy ydym ni a pam rydym ni’n ysgrifennu’r wefan hon.
Golygydd
Cynghorydd Talat Chaudhri (Plaid Cymru), Ward Bronglais
Grŵp Golygyddol
Cynghorydd Nishant Chandolia (Plaid Cymru), Ward y Canol
Cynghorydd Jeff Smith (Plaid Cymru), Ward y Gogledd
Cynghorydd Julien Brun (Plaid Cymru), Ward Penparcau
Cyngor Sir Ceredigion yw’r prif cyngor ar gyfer Ceredigion i gyd, gan gynnwys Aberystwyth. Er enghraifft, mae e’n rhedeg ysgolion, casglu sbwriel, darparu gofal cymdeithasol, rhedeg meysydd parcio a chyflogi wardeniaid traffig, gwneud penderfyniadau cynllunio ac ati. Fe biau’r promenâd a’r castell, yn ogystal â llawer o bethau eraill yn y dref ac yng ngweddill y sir.
Yn yr ystyr yna, nac ydy, nid yw Cyngor Tref Aberystwyth ddim yn gwneud y pethau hynny. Ond mae e’n gyngor etholedig ar raddfa llawer llai na Cheredigion.
Mae’n bwysig i beidio cymysgu’r rhain wrth siarad am “y Cyngor”. Maen nhw’n wahanol iawn. Dyna pam rydym ni am helpu pobl drwy esbonio beth yw Cyngor Tref Aberystwyth a beth mae e’n ei wneud.
