Grŵp bach o gynghorwyr tref Aberystwyth ydym ni sydd wrthi’n postio gwybodaeth rydym ni’n gobeithio ei bod yn ddefnyddiol i bobl yn y dref. Rydym ni am gadw ein preswylwyr, ein myfyrwyr a’n hymwelwyr yn ymwybodol o beth rydym ni’n ei wneud drostyn nhw. Rydym ni hefyd am roi gwybod i bawb beth sy’n digwydd yn y dref, felly ni fydd hi ddim i gyd yn wleidyddiaeth leol. Os ydych chi yn ein tref, pwy bynnag ydych chi, mae ots gennym ni amdanoch chi hefyd!
Cofiwch, rydym ni’n wirfoddolwyr nad ydym ni’n cael ein talu am ein hamser mewn cyfarfodydd neu’n eich cynrychioli chi, sy’n cymryd oriau lawer o’n hamser ni. Rydym ni’n gwneud hyn yn unig am ein bod ni’n caru ein tref. Mae gan y Cyngor Tref nifer fach o staff cyflogledig sy’n gweithio’n galed inni. Gadewch inni fod yn glir na chaiff y wefan hon ei chyhoeddi na’i chynnal gan y Cyngor Tref neu ei staff, ond gan grŵp bach o gynghorwyr fel unigolion. Yr awduron unigol sy’n postio biau’r barnau a fynegir ganddynt yma.
Peth arall nad ydym ni am ei wneud yw defnyddio’r wefan hon i sgorio pwyntiau gwleidyddol neu ymgyrchu’n etholiadol. Mae llawer o lefydd a chyfleoedd eraill i wneud hynny. Credwn ni mewn cyfathrebu positif ac adeiladol gyda phreswylwyr a chyda’n gilydd lle a phryd bynnag y gallwn ni, ynghyd â phobl eraill o unrhyw bleidiau cynyddgarol sy’n cymryd gofal am bobl gyffredin.
Pwrpas y wefan hon yw rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd yn y dref. Triwn ni ein gorau i fod mor ffeithiol ag sy’n bosibl, er na allwn ni ddim llai na rhoi ein barnau fel y gwelwn ni bethau. Gallwch chi ein dal ni i gyfrif amdano!
Rydym ni’n paratoi rhestr o gwestiynau cyffredin (sydd ar ddod) am wybodaeth sylfaenol am beth rydym ni’n ei wneud – a beth nad ydym ni ddim yn ei wneud – a chofiwch nad y Cyngor Sir ydym ni! Nid yw’r Cyngor Tref ddim yn gwagio’ch biniau chi a nid yw’n codi tâl arnoch chi am barcio, er enghraifft. Nid yw’n trwsio’r ffyrdd neu redeg yr ysgolion neu’r cartrefi gofal. Y Cyngor Sir sy’n rhedeg y gwasanaethau mawr yna. Er hynny, mae llawer rydym ni’n ei wneud i chi, felly rydym ni’n credu mai eich hawl chi yw gwybod beth. Ein amcan ni yw helpu i roi gwybod i’r cyhoedd am beth mae’r Cyngor Tref yn ei wneud a beth yw ei ddyletswyddau (mewn tudalennau sydd ar ddod). Yn y cyfamser, gallwch chi siecio gwefan y Cyngor Tref.
Tra rydym ni’n datblygu’r wefan hon, teimlwch yn rhydd i anfon ebost atom ni, at y Cyngor Tref, neu wrth gwrs at unrhyw un o’ch cynghorwyr tref, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am beth rydym ni’n ei wneud neu am faterion penodol. Rydym ni wedi ein hethol i wneud ein gorau i’ch helpu chi ar faterion lleol sy’n codi ble bynnag y gallwn ni.
Golygydd
Cynghorydd Talat Chaudhri (Plaid Cymru), Ward Bronglais
Grŵp Golygyddol
Cynghorydd Nishant Chandolia (Plaid Cymru), Ward y Canol
Cynghorydd Jeff Smith (Plaid Cymru), Ward y Gogledd
Cynghorydd Julien Brun (Plaid Cymru), Ward Penparcau
Fersiwn Saesneg y wefan hon yw https://aberystwyth.online
Rydym ni’n ymroddedig i gefnogi’r iaith Gymraeg.
