[English]
MAE’R CYNG. NISHANT CHANDOLIA YN ENNILL BUDDUGOLIAETH HANESYDDOL I LANHAU AFONYDD AC ARFOR ABERYSTWYTH ‒ Mae’r Cyng. Nishant Chandolia wedi ennill buddugoliaeth hanesyddol i gymuned Aberystwyth, gan dderbyn cefnogaeth drawsbleidiol unfrydol am ddau gynnig o bwys i fynd i’r afael â “llygru systemataidd” dyfrffyrdd lleol. Mae’r cynigion, wedi eu cyflwyno gan y Cyng. Chandolia yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 27 Ebrill 2026, yn dilyn rhyddhâd data gwaradwyddus sy’n dangos i’r afon Ystwyth orfod dioddef 111 dadlwythiad o garthion yn y flwyddyn diwethaf, sef cyfanswm o 1,126 awr. Mae hyn yn gyfystyr â 47 diwrnod o ddadlwytho carthion yn ddi-dor i’r afon.

Dywedodd y Cyng. Nishant Chandolia, cynrychiolydd dros Ward y Canol ar Gyngor Tref Aberystwyth: “Ni ellir gwahanu ein hunaniaeth fel tref o afonydd Rheidol, Ystwyth a Bae Ceredigion. Mae gweld carthion crai yn cael eu rhyddhau i’n harbwr 1.6 gwaith yr wythnos ar gyfartaledd yn fethiant na allwn ni ei anwybyddu dim mwy. Des i â’r cynigion hyn yn eu blaen am fod rhaid inni symud y tu hwnt i eiriau. Mae’r bleidlais hon yn rhoi mandad ffurfiol i mi i fynnu gwell i’n preswylwyr ac i’n busnesau lleol.”
Mae’r cynigion llwyddiannus yn rhwymo’r Cyngor i strategaeth atebolrwydd newydd “O’r Ffynhonnell i’r Môr”, dan arweiniad y Cyng. Chandolia, sy’n cynnwys:
Atebolrwydd Cyhoeddus: galw’n ffurfiol ar Ddŵr Cymru ac ar Gyfoeth Naturiol Cymru i ddod i gyfarfod sy’n agored i’r cyhoedd i esbonio eu cynlluniau buddsoddi ar gyfer 2025–2030.
Atal Datblygu Gwael: am fod Cyngor Tref Aberystwyth yn ymgynghorai statudol i geisiadau cynllunio, bydd yn argymell gwrthod unrhyw adeiladau newydd nad ydynt yn cynnwys carffosiaeth fodern (SuDS), i leihau’r straen ar garthffosydd Fictoraidd y dref.
Tryloywder Amser Real: mynnu bod Dŵr Cymru yn darparu rhybuddion cyhoeddus ar unwaith ac yn dra aml bob amser mae gorlifiad yn digwydd.
Iechyd Glas Gyntaf: mabwysiadu egwyddorion “Cynnig i’r Môr”, gan sicrhau bod iechyd ein dyfroedd yn flaenoriaeth o’r radd flaenaf ym mhob penderfyniad y cyngor.
Yn sylwi ar yr argyfwng yn yr ardal, ychwanegodd y Cyng. Chandolia: “Am fod Ceredigion bellach yn rhengoedd yr ardaloedd mwyaf llygredig yn y DU yn ddiweddar, rydym ni’n tynnu llinell yn y tywod. Tra bod afonydd lleol eraill fel Teifi yn y penawdau newyddion am y rhesymau lleiaf teilwng, rydw i’n benderfynol o sicrhau bod Rheidol ac Ystwyth yn cael eu hamddiffyn rhag dirywiad tebyg. Dyma ymladdiad dros drylowder a thros safonau dŵr mae ein cymuned yn eu haeddu.”

Ar ben y newidiadau polisi, mae’r Cyng. Chandolia hefyd yn pleidio achos ymgyrch cymunedol lleol “Atal yr Atal” i helpu preswylwyr a busnesau leihau’r seimiau a’r pethau “angharthiadwy” sy’n cyfrannu at 80% o atalfeydd yn y carthffosydd lleol.
Nishant ar Instagram, Facebook (Saesneg)

